St David's Day Parade

"Os y chi'n caru Cymru, dylech chi fod yna!"

"If you love Wales, you should be there!"

 
  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
Home Info | Gwybodaeth Rules and Guidance
Rules and Guidance
Rules and Guidance - Cymraeg PDF Print E-mail
Article Index
Rules and Guidance
Cymraeg
All Pages

10fed Gorymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi Dydd Iau 01/03/2012

Rheolau a Chanllawiau ar gyfer grwpiau sy’n cymryd rhan

1.        Mae grwpiau sy’n ymuno â’r Orymdaith yn derbyn felly eu bod yn cydymffurfio â bwriadau hysbys yr Orymdaith, sef cynnal gorymdaith ar Ŵyl Dewi, Mawrth 1af, sydd heb fod yn wleidyddol nac yn filwrol.

2.        Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl Gristnogol ond nid cadw gŵyl grefyddol yw bwriad yr Orymdaith; fel Gŵyl Genedlaethol i Gymru, mae croeso i bawb, boed ganddynt grefydd neu beidio. Byddwn yn gwahodd y prif grwpiau ffydd yng Nghymru i ddanfon eu cynrychiolwyr swyddogol i gydgerdded ar yr Orymdaith.

3.        Rhaid: i grwpiau gofrestru eu bwriad; rhoi manylion cyswllt eu stiward(iaid) e.e. rhif ffôn symudol, i’w defnyddio ar y diwrnod, os bydd angen; gytuno i lynu wrth y rheolau a chanllawiau hyn.

4.        Rhaid i bob grwp enwi eu stiward(iaid), a rhaid i un stiward ar ran y grŵp fynychu’r briffio ar gyfer yr Orymdaith am 11.45 a.m., 01/03/2012, yn Neuadd y Ddinas gerllaw.

5.        Gwisg: Dylai cerddwyr wisgo’n barchus ac rydym yn annog gwisg addas ar gyfer y tymor, pellter y daith (c.1m/1.6 km) a dathlu gŵyl ein Nawdd Sant: anogir gwisg Gymreig neu wisg brodorol cenedl arall, ond mae gwisg fodern anffurfiol, gwisgo lan yn addas (crys carfan Cymru neu ddraig), oll yn dderbyniol.

6.        Ni chaniateir lifrau milwrol, martsio milwrol, baneri. offer neu addurniadau milwrol, na chwaith grwpiau milwrol o unrhyw fath ar yr Orymdaith, gan mai gorymdaith sifil yw hon. Mae croeso mawr i bersonél milwrol (boed yn gwasanaethu ar hyn o bryd ai peidio) i ymuno â’r Orymdaith mewn gwisg sifil (h.y. heb ddangos ranc, uned, medalau na chapiau milwrol). Mae croeso i’r heddlu a gwasanaethau sifil eraill yn eu lifrai, ee megys gwasanaethau ambiwlans, nyrsio, brigad dân ac ati

7.        Baneri grŵp: Mae baneri grŵp ar flaen y grŵp yn dderbyniol ond fe ddylai fod yn anwleidyddol, yn ddidramgwydd ac yn Gymraeg yn ogystal ag unrhyw iaith/oedd eraill. Deallwn y gall rhai sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf gael anhawster i wneud hyn mewn pryd: cysylltwch â ni, efallai y gallwn ni eich helpu.

8.        Baneri – yr unig fflagiau a ganiateir yw: Lluman Dewi (baner Dewi Sant – croes aur ar gefndir du); Y Ddraig Goch (Baner Cymru) neu Llumanau Teuluol Tywysogion Cymru (baneri Tywysogion brodorol Cymru, neu Dŷ Glyndŵr). Fe’ch anogir i ddod â baneri ac i fwynhau eu chwifio, ond nid yw’n ofynnol!

9.        Ni chaniateir unrhyw gasglu arian neu addunedau ar gyfer elusen na chwaith gwerthu nwyddau, ganfasio na dosbarthu taflenni gwleidyddol eu cynnwys naill ai wrth ymgynnull nac ar yr orymdaith. Rheolir a thrwyddedir mân-werthu (hawking) gan Gyngor Caerdydd.

10.     Amseru:

          11.30       Ymgynnull gyferbyn â Neuadd y Ddinas (yn Heol Brenin Sior VII), Caerdydd (CF10 3ND).
11.45       Stiwardiaid i fynychu cyfarfod briffio yn Neuadd y Ddinas  - 10 munud o hyd
12.00       Bagad a bandiau yn paratoi / perfformio
12.10       Pawb yn eu llefydd - Bydd Taflen ar hysbysfyrddau yn dangos ble dylai pawb sefyll

          12.30 c.   Gorymdaith yn cychwyn wrth arwydd (utsain) yr Arweinydd

          13.15 c.   Cyrraed yr Aes a chanu Hen Wlad Fy Nhadau; cyflwynydd Frank Hennessy.

11.     Llwybr (2012):
Cerddwn tua 1 filltir / 1.6 cilomedr: Neuadd y Ddinas (CF10 3ND), Boulevard de Nantes, heibio Castell Caerdydd , Stryd Fawr/Heol Llanfair;  Lon Y Felin; Yr Aes  http://bit.ly/Parade2011
Bydd llefydd ar gadw ar gyfer bysiau a bysiau bach ym Maes Parcio Gerddi Soffia, Heol y Gadeirlan.

Bydd man picnic Dydd Gwyl Dewi ar gyfer ysgolion i’w gale yn ardal Working St. (CF10 1GN)

Disgwylir ar yr Orymdaith (gall newid):

‘Dewi Sant' a charfannau o fanerwyr yn cwhwfan llumanau Dewi a’r Ddraig Goch; Bagad Kadoudal  - ein cefndryd o Lydaw yn dangos sut mae dathlu yn gerddorol gyda drymiau a phibau Llydewig; pobly ifainc Ysgol Fitzalan yn dawnsio a phrancio fel dreigiau bach dan gyfarwyddyd cwmni SWICA a chyfeiliant heintus band jazz Wonderbrass;  Cor Cochion Caerdydd; ffidlwyr Sesiwn yn u gwisgoedd Cymreig; pib  a drymiau Cymreig; Adamant Jazz (canu yn null Orleans Newydd); CPC (FAW) rheolwyr a sgwadiau; Cymdeithas Ffilipino Cymru, Ysgol Plasmawr, Ysgolion Caerdydd a’r fro gyda Phypedau Enfawr Arwyr Cymru; Cymdeithas Nepali Cymru; chithau, ffrindiau teulu - pam lai?

Am ragor o wybodaeth a’r diweddaraf: http://www.stdavidsday.org/  Cefnogwch ni ar: Facebook , Twitter

The Parade is organised by the National St David’s Day Parade Ltd. with support from Cardiff City Council; both have taken care in the management of the order of parade and the planning of the route respectively.  Risk Assessment available on request.

However, please be aware that if you participate in the parade, which will traverse sections of public highway (closed to traffic), you take part at your own risk and participants should take care of themselves and others when mustering or on parade. You are obliged to follow the directions of the stewards at all times. Please take constant care of young children as traffic, horses and large crowds may be part of or close to the parade.

Trefnir yr Orymdaith gan Orymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi Cyf. gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, ac maent wedi cymryd gofal wrth reoli, trefnu a chynllunio’r orymdaith a’i hynt. Asesiad Risg ar gael wrth ofyn.   Er hynny, dylech sylweddoli os byddwch yn cymryd rhan yn yr Orymdaith, bydd yn dilyn rhannau o’r ffordd fawr (wedi’u cau i draffig), y byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hunan, a dylai’r sawl sy’n cymryd rhan gymryd pob gofal o’i hunan ac eraill wrth ymgynnull ac ar hyd y daith. Bydd gofyn i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan y stiwardiaid bob amser. Cymerwch ofal cyson o blant ifainc, oherwydd gall traffig, ceffylau a thyrfaoedd fod yn rhan neu yn agos at lwybr yr orymdaith.

David Petersen Arweinydd 2012: www.stdavidsday.org

Marc Evans Cydlynydd / Coordinator gwyldewi@[DEL]gmail.com / 0299 2021 3629



 
Custom Search
Banner