2010
Saesneg
7ydd Gorymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi, Caerdydd
Dewch gyda Ni!
Dathlwch ddiwrnod cenedlaethol Cymru yn yr Brifddinas! Ymunwch â ni
unwaith eto eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda gorymdaith ar hyd strydoedd Caerdydd.

 

Dewi Sant | Disclaimer

Hafan
Pam Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi?
Pryd a Ble?
Pam yng Nghaerdydd?
Arwyddocad Dydd Gwyl Dewi
Ymunwch yn yr orymdaith
Noddwyr
Cwestiynau


 

Pam Gorymdaith?

  • Mae angen noddwyr ar yr Orymdaith. Os ydych yn fusnes lleol mae hwn yn gyfle euraidd i chi hysbysebu neu hyrwyddo eich busnes drwy Gymru gyfan. Fe fydd miloedd yn mynychu yr achlysur cyntaf ac yn y dyfodol fe fydd yn tyfu i fod yn un o'r achlysuron mwyaf yng Nghymru. Fe fydd y noddwyr sydd yn ymuno gyda ni o'r dechrau yn cael eu gwobrwyo am eu cefnogath a'u ffyddlondeb.
  • Os am wneud cyfraniad i gronfa y gorymdaith, cysylltwch gyda ni.
  • Byddwch yn rhan o'r achlysur, i roi cymorth i ni godi arian ar gyfer y gronfa mewn rhinwedd swyddogol, cysylltwch gyda ni.

Fe fydd y safle yma yn newid yn rheolaidd cyn y dydd ei hun-gwenewch yn siwr eich bod yn edrych am newidiadau o dro i dro.

Ymdaith Dydd Gŵyl Dewi?

  • Drwy'r byd i gyd gwelir pobl yn ymuno gyda'i gilydd i ddathlu diwrnod eu nawdd sant. Nid oes esiampl gwell na'r Gwyddelod ar Ddydd Gŵyl Sant Padrig; boed yn Nulyn, Birmingham neu Chicago, gwelir Gwyddelod, o bob lliw a llun yn ymuno i ganu, i ddawnsio, ac i yfed cwrw gwyrdd! I ddechrau pob dathliad o Ddydd Gwyl Sant Padrig mae'n rhaid cael pared neu gorymdaith. Rydym ni am greu achlysur i ddathlu ein nawdd sant sydd yn creu yr un cynnwrf a syniad o wladgarwch ac y mae Dydd Gŵyl Sant Padrig yn ei roi i Iwerddon.
  • Fe fydd Gorymdaith Dewi Sant yn agored i bawb, ac yn achlysur Cymreig i bawb. Cyfle i bobl Cymru, beth bynnag eu oedran, cefndir ethnig neu cefndir cymdeithasol, i bobl o dras Cymreig (neu y rhai sydd am fod yn Gymry!) i ymuno mewn dathliad creadigol ac urddasol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Dathlu o beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry.
  • I drawsnewid y canfyddiad o Ddydd Gŵyl Dewi i fod yn ddiwrnod cenedlaethol Cymru drwy'r byd i gyd, yn yr un modd a wnaeth y Gwyddelod gyda Dydd St Padrig. Bydd hwn yn achlysur i dangos balchder yn ein Cymreictod. Syniadau newydd, egni newydd, golwg newydd ar Gymru.
  • I helpu godi proffeil Cymru yn y byd. Yn 2003 roedd yr Empire State Building yn Efrog Newydd wedi ei oleuo yn goch, gwyn a gwyrdd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond beth oedd ganddom ni yn ein prifddinas? Mae'n rhaid i ni ddangos Cymru i'r byd.
  • I ddatblygu yr achlysur i fod yn un blynyddol, yn ganolbwynt i'r celfyddydau ac i ddiwylliant, ond eto yn achlysur agored heb fod yn ffroenuchel.

Pam Caerdydd?

Caerdydd yw ein prif ddinas a'r ddinas fwyaf yng Nghymru; does yr un man yn fwy addas i gael gorymdaith o Gymreictod. Fydd achlysur o'r fath yn rhoi hwb economaidd i'r ddinas, ac yn annog mwy o ymwelwyr i'r ddinas ac i'n cenedl. Ein gobaith yw bydd trefi a dinasoedd arall yn ymuno gyda ni i greu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.


Arwyddocad Dydd Gŵyl Dewi

Ers canrifoedd mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn wyl genedlaethol; yn draddodiadol mae'r cyntaf o Fawrth 589 AD yn cael ei gofio fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant. Cafodd Dewi ei wneud yn nawdd sant i ni yng Nghymru bron i fil o flynyddoedd yn ol yn ystod uchafbwynt rhyfel y Cymry yn erbyn byddinoedd Edward y Cyntaf. Heddiw mae pawb sydd a chysylltiadau Cymreig yn ei dathlu ar y cyntaf o Fawrth; llynedd yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gwyl Dewi ei adnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' eu oleuo yn lliwiau baner Cymru.

Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd o Batagonia i Siberia yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau. Dyma'r diwrnod lle yr ydym yn gwisgo cenhinen neu cenhinen Bedr (y draddodiad yn mynd yn ol i'r Canol Oesoedd, pan benderfynodd byddin Cymru i wahaniaethu eu hun o'i gelyn drwy wisgo cennin ar eu capiau).

Mae Dewi Sant yn arwr sydd uwchlaw gwleidyddiaeth a ddadlau dibwys, yn symbol o garedigrwydd mewn byd hunanol, yn symbol o Gymreictod i uno'r Cymry. Yn Yr Armes Prydain, epig a ysgrifennwyd dros fil o flynyddoedd yn ol fedr gweld y proffwydoliaeth o'r Cymry yn uno tu ol i Dewi Sant fel eu arweinydd:

'A lluman gln Dewi a ddyrchafant'


Dewi Sant

Pwy oedd Dewi Sant?

Ganwyd Dewi Sant tuag at ddiwedd y bumed ganrif, llai na chant o flynyddoedd wedi i'r olaf o lengoed Rhufain adael Cymru. Tad Dewi oedd Sant, etifedd teulu brenhinol Ceredigion, a'i fam oedd Non, merch i Gynyr o Caio, enw sydd yn cael ei gofio mewn nifer o eglwysydd a ffynhonau sanctaidd yng Nghymru, Cernyw a Llydaw. Cafodd Dewi ei addysg yn Henfynyw yng Ngheredigion, lle ddysgodd y wyddor, y salmau a'r llithoedd ar gyfer y flwyddyn eglwysig. Sylfaenodd gymdeithas mynachaidd Geltaidd yng Nglyn Rhosyn, ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, yn y man lle sefir Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Mae'n bosib i'r safle fod yn gartref i gymuned crefyddol gynnar iawn. Mae Sant Padrig hefyd yn gysylltiedig gyda'r safle, gannwyd Sant Padrig yn Ne Cymru, a dywedyd iddo dreulio ychydig o amser yng Nglyn Rhosyn cyn hwylio i Iwerddon o Borth Mawr.

Tyfodd enwogrwydd Dewi fel athro drwy'r byd Geltaidd. Roedd Dewi yn byw bywyd llym, fel pob mynach Celtaidd arall - yn wir cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr. Mae yna nifer fawr o chwedlau yn ymwneud a Dewi. Efallai mai'r enwocaf yw y bregeth yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion, pan yn annerch y dorf enfawr fe gododd y tir o dan ei draed er mwyn bod pawb yn gallu clywed ef yn siarad. Dywedid i golomen pig-aur lanio ar ei ysgwydd fel symbol o'i sancteiddrwydd.

Daeth y sefydliad yng Nglyn Rhosyn yn un o'r mannau cysegredig mwyaf pwysig yn y byd Cristnogol, ac yn sicr yr un fwyaf pwysig yng Nghymru: roedd llwybrau a heolydd drwy Gymru gyfan yn arwain tuag ato, ac yn y canol oesoedd roedd dau bererindod i Tyddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain.

Felly daeth Glyn Rhosyn yn ganolbwynt i ddyheadau crefyddol y genedl Gymreig a fel ysgrifennodd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis): 'Fe ddaeth Esgobaeth Tyddewi yn symbol o annibyniaeth Cymrua dyna paham y dyrchafwyd Dewi ei hun i fod yn Nawdd sant Cymru.'

Mae Mawrth y cyntaf wedi ei gofnodi fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant, ond mae yna ansicrwydd ynglyn a'r flwyddyn - mae 589 yn bosibilrwydd. Wrth i'r mynachod yn Nglyn Rhosyn baratoi ar gyfer ei farwolaeth, dywedodd Dewi wrthynt: 'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.'

Pryd a Ble?

Fe fydd yr orymdaith yn cael ei gynnal ar yr cyntaf o Fis Mawrth, ar Ddydd Gwyl Dewi. Fe fydd yr orymdaith yn gadael Yr Amguedfa Genedlaethol am 12.30 o'r gloch ar Mawrth y 1af, ac fe fydd y llwybr yn mynd drwy ganol Caerdydd ac wedyn lawr i'r The Hayes. Gweler y map.


Ymunwch yn y Gorymdaith fel unigolyn neu fel rhan o grwp. Os oes gennych fand, cor neu grwp dawns, mae croeso arbennig i chi ymuno.

Noddwyr

Mae achlysur fel hon yn cymryd amser ac arian. Rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth ariannol neu nawdd. I helpu gyda rhodd, neu i fod yn noddwr fusnes cliciwch yma


Cwestiwn ac ateb

C: Sut ydw i'n cymryd rhan?
A: Cliciwch ar cysylltwch a ni, uchod, a rhowch wybod i ni. Os ydych yn rhan o: Grwp Cerddoriaeth, Band, Grwp Dawns, Cor, Cymdeithas Canol Oesoedd neu am greu fflt, cysylltwch a ni heb oedi.

C: Sut ydw i'n cyrraedd y gorymdaith?
A: Os ydych am gymryd rhan, fydd rhaid i chi gyrraedd yr Amgueddfa Genedlaethol erbyn 12.45 o'r gloch ar gyfer y Seremoni Agoriadol.

C: Ydy'r dydd yn dod i ben gyda diwedd y gorymdaith?
A: NA! Fydd nifer o ddigwyddiadau arall i ddathlu'r wyl yn cymryd lle lawr y Bae ac yn y nos.